CLA288 - Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r rheoliadau yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2008, ac yn gweithredu, yng Nghymru a Lloegr yn unig, Gyfarwyddeb 2006/7/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch rheoli ansawdd dyfroedd ymdrochi a diddymu Cyfarwyddeb 76/160/EEC (“y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi”). Maent hefyd yn gweithredu Penderfyniad Gweithredu'r Comisiwn 2011/321/EU i sefydlu, yn unol â Chyfarwyddeb 2006/7, symbol ar gyfer gwybodaeth i'r cyhoedd ynghylch dosbarthiad dyfroedd ymdrochi ac unrhyw waharddiadau ymdrochi neu gyngor yn erbyn ymdrochi.
1. Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2(ix) mewn perthynas â'r offeryn hwn:
Nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.
2. Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt mewn perthynas â’r offeryn hwn.
3. Ymateb y Llywodraeth
Diben y Rheoliadau hyn oedd, ymhlith pethau eraill, ymateb i her gan y Comiswin Ewropeaidd ar drosiad cyffredin Cyfarwyddeb 2006/7/EC yng Nghymru a Lloegr gan y rheoliadau trosi rhagflaenol (cyfansawdd). Ystyrir ei bod yn briodol parhau â throsiad cyffredin yng Nghymru a Lloegr, er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â phryderon y Comisiwn yn llawn.
Mae’r rheoliadau cyfansawdd hyn yn berthnasol i Gymru a Lloegr ac yn gorfod cael eu cymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Senedd. Yn unol â hynny, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i'r Offeryn hwn gael ei osod ar ffurf drafft, na'i wneud, yn ddwyieithog.
4. Ystyriaeth y Pwyllgor
Trafododd y Pwyllgor y rheoliadau ac ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad drafft yn ei gyfarfod ar 23 Medi 2013. Mynegodd y Pwyllgor bryder yn unol â'r pwynt adrodd technegol uchod a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pam na wneir y rheoliadau yn Gymraeg, yn ogystal ag yn Saesneg.